Perfformiwr: Llio Evans (soprano), Dafydd Allen (tenor), Paul Carey-Jones (baritone), Rhiannon Pritchard (piano)
AM Mamiaith
Mae’r ferch mewn stad rhwng cwsg ac effro yn clywed lleisiau, synau, lleisiau o’r gorffennol, swn o tu allan i’r carchar, swn natur sy’n adeiladu fel hunllef ble mae’r ferch yn creu sw fel cri tylluan ar ddiwedd y rhan yma. Mae’r tair golygfa operatig hyn yn archwilio profiad un o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith o’r 1980au, wedi’i rhwygo oddi wrth ei theulu a’i charcharu am ei phrotest dros hybu ei mamiaith – y Gymraeg.
Ysgrifennwyd fel rhan o raglen ymchwil a datblygu – Tuag Opera – mewn partneriaeth â Tŷ Cerdd, Music Theatre Wales, a’r Eisteddfod Genedlaethol 2025.
Ymunwch â ni JOIN US
Ymunwch â ni yn Y Stiwdio ar y Maes nos Wener, 8 Awst 2025 am 7.30pm. I gael gwybodaeth lawn am Eisteddfod Genedlaethol 2025, ewch i'r wefan hon (dolen wedi'i hymgorffori). Join us at Y Stiwdio on the Maes on Friday, 8 August 2025 at 7.30pm. For full information about the National Eisteddofd 2025, please visit this website (link embedded).