Nathan yn fentora Medal y Cyfansoddwr 2026

Mae Medal y Cyfansoddwr yn gydweithrediad rhwng Eisteddfod Genedlaethol, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Gerddoriaeth Cymru. Mae’n lwybr datblygu artist lle bydd tri chyfansoddwr dethol yn creu gwaith newydd i’w berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Penllanw’r daith fydd dyfarnu Medal y Cyfansoddwr i’r cyfansoddwr buddugol yn ystod seremoni arbennig ar lwyfan y pafiliwn yn yr Eisteddfod ym mis Awst. 

THEMA

Thema ar gyfer Medal y Cyfansoddwr eleni yw barddoniaeth Waldo Williams, un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr 20fed ganrif – ac yn un o feibion amlycaf ardal Y Garreg Las, cartref Eisteddfod 2026. 

Mae Medal y Cyfansoddwr – Lleisiau Waldo yn lwybr sy’n cynnig cyfle cyflogedig i dri chyfansoddwr gyfansoddi dau gyfansoddiad fer: un ar gyfer côr lleisiau SATB ac un ar gyfer côr plant/ieuenctid (SA) wedi’u gosod ar gerddi Waldo Williams. 

Bydd y tri chyfansoddwr dethol yn gweithio gyda Nathan James Dearden, cyfansoddwr a thiwtor; Caleb Mock, cyfarwyddwr corawl, a chôr SATB a fydd yn cael ei ffurfio’n arbennig ar gyfer y prosiect hwn. Croesewir ceisiadau gan bob math o grewyr cerddoriaeth o bob cwr o Gymru ac ar draws pob genre. 

Y BROSES 

Cynhelir gweithdai a sesiynau mentora gyda’r tri cyfansoddwr dethol gydol y misoedd yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol. Daw penllanw’r cynllun gyda pherfformiadau byw o waith y tri chyfansoddwr ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn 8 Awst 2026. Yna, ar sail y cyfansoddiadau, dyfernir Medal y Cyfansoddwr yn ogystal â gwobr o £750 i’r enillydd (o blith y tri). 

Bydd proses wahanol ar gyfer y ddwy gerdd:  

  • Ar gyfer y gwaith SATB, bydd y tri chyfansoddwr yn cyfranogi mewn gweithdai gyda’r mentor-gyfansoddwr, Nathan James Dearden, y cyfarwyddwr corawl Caleb Mock, a chôr SATB a ffurfir yn arbennig ar gyfer y llwybr hwn. Y dasg yw gosod cerdd eiconig Waldo Williams, Plentyn y Ddaear i leisiau SATB 

  • Ar gyfer y gwaith i gôr plant/ieuenctid (SA), bydd y cyfansoddwyr yn gweithio’n annibynnol, gyda rhywfaint o fentora/amser cyswllt ar-lein gan Nathan James Dearden. Y gerdd osod ar gyfer côr plant fydd Y Ci Coch. ​

Ar fore’r gystadleuaeth, bydd cyfle i’r tri chyfansoddwr weithio ar y ddau gyfansoddiad gyda’r ddau gôr yn Y Stiwdio, ar Faes yr Eisteddfod ar 8 Awst. ​Darperir copi o’r ddwy gerdd (yn ddwyieithog) ar waelod y dudalen.

Bydd pob artist yn derbyn £600 am eu cyfranogiad mewn cyfuniad o weithdai wyneb yn wyneb ac amser cyswllt ar-lein. Bydd costau teithio (o fewn Cymru) yn cael eu talu ar gyfer unrhyw artist sydd angen teithio i’r gweithdai (Caerdydd) a’r perfformiad (Sir Benfro). 

​Mae'r panel beirniadu ar gyfer Medal y Cyfansoddwr eleni yn cynnwys Tim Rhys-Evans, prif feirniad (arweinydd), Robert Fokkens (cyfansoddwr), a Branwen Haf (artist).

Bwriedir cyhoeddi gwaith y tri chyfansoddwr drwy Tŷ Cerdd yn dilyn yr Eisteddfod.  

DYDDIADAU

Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael ar gyfer y gweithdai / perfformiadau canlynol: 

  • Dydd Mawrth 10 Chwefror (ar-lein): Sesiwn gyflwyno (2.5 awr, prynhawn) 

  • Dydd Llun 30 Mawrth (mewn person): Gweithdy gyda chôr bach, yn Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 

  • Dydd Llun 18 Mai (mewn person): Gweithdy gyda chôr bach, yn Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd 

  • Dydd Sadwrn 8 Awst: Ymarfer / beirniadu yn yr Eisteddfod, Stiwdio’r Eisteddfod, Llantwd, Sir Bendro (yn ystod y dydd) 

  • Digwyddiad perfformio cyhoeddus: Dydd Sadwrn 8 Awst (Pafiliwn yr Eisteddfod, gyda’r hwyr, tua 18.00) 

CYFRANOGWYR

Genre: Er bod y cyfle hwn ar gyfer y rhai sy'n creu cerddoriaeth gan ddefnyddio hen nodiant, rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio mewn unrhyw arddull gerddorol. 

Cyfansoddwyr Cymraeg: Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth ar draws Cymru. Os ydych yn gerddorol ac yn ateb gofynion y rheolau isod, rydych yn gymwys i gystadlu. Mae cystadlaethau ac ysgoloriaethau’r Eisteddfod yn agored i unrhyw un: 

  • a anwyd yng Nghymru, neu 

  • y ganwyd un o'u rhieni yng Nghymru, neu 

  • sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg, 

  • neu sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst 2025. 

Hygyrchedd a chynhwysiant 

Telir treuliau teithio artistiaid o fewn Cymru. Sylwer na fydd teithio y tu allan i Gymru yn cael ei gwmpasu

Rydym yn cydnabod bod llawer o artistiaid yn parhau i wynebu rhwystrau systemig o fewn y diwydiant cerddoriaeth. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn drwy ein gwaith, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd wedi wynebu rhwystrau yn sectorau’r celfyddydau/cerddoriaeth. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, pobl Dduon, Asiaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang, pobl LGBTQIA+, a phobl â chefndiroedd economaidd-gymdeithasol is neu sydd â rhwystrau economaidd-gymdeithasol parhaus i’w gwaith creadigol. 

Rydym yn awyddus i wneud y broses ymgeisio mor syml â phosib, felly rydym yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi amdano’r rhaglen neu sut i ymgeisio. Os hoffech chi drefnu sgwrs ynglŷn â’ch cais neu i drefnu cymorth mynediad cysylltwch â freya.dooley@tycerdd.org.  ydym hefyd yn gwahodd y crewyr cerddoriaeth rydym yn gweithio gyda i rannu a thrafod anghenion mynediad (‘access riders’) ar unrhyw gam yn y prosiect. 

Rydym yn bartneriaid ac yn lofnodwyr balch o Egwyddorion Mynediad Teg. Mwy o wybodaeth am hyn a’n Conglfeini yma.

FFORMAT (DULL) YMGEISIO 

Caiff ceisiadau ysgrifenedig eu cyflwyno trwy ein PORTH ar-lein. 

Croesawir ceisiadau sain a fideo hefyd. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, cysylltwch â freya.dooley@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org am gymorth. 

  • Iaith Gymraeg: Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, ac mae croeso i gyfranogwyr beth bynnag fo eu lefel ar eu taith gyda’r Gymraeg. 

Os oes genych chi ddiddordeb, ond bod gennych chi rai cwestiynau… 

… gallwn siarad â chi’n uniongyrchol dros y ffôn neu Zoom.

Anfonwch e-bost at freya.dooley@tycerdd.org  neu ymholiadau@tycerdd.org i drefnu galwad. Rydym yma i gynorthwyo – felly os oes unrhyw beth yr hoffech holi, rhowch wybod, a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb. 

SUT I WNEUD CAIS 

Cyflwynwch yr wybodaeth ganlynol i’n PORTH. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, a chadarnhad eich bod dros 18 oed. Cyfeiriwch at eich gwefan a’ch enwau defnyddiwr cyfryngau cymdeithasol hefyd (os yw’n berthnasol). 

2.  Dywedwch wrthym am eich ‘ymarfer’ yn y maes (Uchafswm 250 o eiriau)

Dywedwch wrthym am eich ‘ymarfer’ fel cyfansoddwr a chrëwr cerddorol, a’r hyn rydych wedi bod fwyaf balch ohono. 

Rhowch wybod am unrhyw brofiad blaenorol sydd gennych fel ymarferwr a chrëwr cerddoriaeth a allai fod yn berthnasol.  ​

3. Pam hoffech chi fod yn rhan o’r llwybr hwn? (Uchafswm 250 o eiriau)

Dywedwch wrthym sut y byddai hyn yn adeiladu ar eich profiad blaenorol a’r hyn rydych yn gobeithio a allai newid a datblygu yn eich cerddoriaeth drwy gymryd rhan. 

Sut ydych chi’n credu y bydd y cyfle hwn yn fuddiol i’ch gyrfa? 

4. Sut fyddech chi’n ymateb i weithio gyda’r ddau gôr, ac i osod testunau Waldo Williams?(Uchafswm 400 o eiriau: nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r terfyn llawn, ond rhowch gymaint o fanylion ag sy’n teimlo’n ddefnyddiol.) 

Fel rhan o’ch ateb, rhowch wybod am eich: dull o weithio gyda’r ddau gôr diddordeb yng ngwaith a cherddi Waldo Williams​ eich perthynas â Chymru a’i hiaith. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddangos ymrwymiad i’r Gymraeg a gwerthfawrogiad o’i phwysigrwydd i’r prosiect hwn.

5. Enghreifftiau o’ch gwaith: darparwch ddwy ddolen neu atodiad i’ch cerddoriaeth a’r ddau sgôr cyfatebol. 

Anogwn chi i rannu enghreifftiau sy’n dangos eich gwaith cryfaf ac, os yn bosibl, sy’n cysylltu â’ch dull o fynd at y prosiect hwn. 

Ar gyfer sain: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo. Gall y rhain fod ar SoundCloud, Spotify, YouTube ac ati. (Os oes angen help i greu dolenni, cysylltwch â freya.dooley@tycerdd.org). 

Ar gyfer sgoriau: anfonwch ffeiliau PDF 

CYFLWYNO CEISIADAU SAIN A FIDEO: 

  1. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2, 3, 4 a 6. (Hyd mwyaf 10 munud: nid oes angen defnyddio’r deg munud llawn, ond cynnwys cymaint o fanylion ag y credwch sy’n ddefnyddiol). 

  2. Llwythwch ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’ch Manylion Personol (C1) a dolenni at ddau enghraifft o’ch gwaith (C5). Os oes angen help i greu dolen i’ch fideo, anfonwch e-bost at freya.dooley@tycerdd.org

Y BROSES O DDEWIS A’R PANEL DETHOL 

Bydd y panel yn cynnwys: 

  • Supriya Nagarajan, canwr a chyfansoddwr 

  • Iwan Teifion Davies, cyfarwyddwr cerdd [a Chadeirydd Panel Cerdd yr Eisteddfod] 

  • Nathan James Dearden, cyfansoddwr a mentor llwybr 

  • Deborah Keyser, Cyfarwyddwr, Tŷ Cerdd gyda Freya Dooley (Rheolwr Datblygu Artistiaid, Tŷ Cerdd) yn gwylio/chadeirio’r panel ac yn cymryd nodiadau. 

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar y meini prawf canlynol: 

  • Sut mae’r ceisiwr yn cyfathrebu’n glir eu cefndir / gyrfa a phwysigrwydd eu gwaith/uchelgais i’r cyfle hwn (C2) 

  • Yn seiliedig ar eu hatebion i C3 

  • Sut y byddai’r cyfle hwn o fudd i’w gyrfa yn y tymor byr a’r tymor hir (C3 a C4) 

  • Effaith y cyfle hwn ar ddatblygiad personol, proffesiynol a/neu artistig y ceisiwr (C3 a C4) 

  • Ymgysylltu gwirioneddol â’r iaith Gymraeg (C4) 

Enghreifftiau o gerddoriaeth: 

  • I ba raddau mae’r enghreifftiau a ddarparwyd yn dangos potensial ac ansawdd yr ymgeiswyr  

Adborth: 

Byddwn yn darparu adborth i’r holl geisiwr sy’n gofyn amdano. 

AMSERLEN Y BROSES DDETHOL 

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 ar ddydd Mercher 7 Ionawr. Byddwn yn rhoi lwfans o 10 munud ar ôl y dyddiad cau - ond ni allwn dderbyn ceisiadau ar ôl yr amser hwnnw (10:10yb). Os ydych chi'n teimlo bod angen help arnoch i gwrdd â'r dyddiad cau, cysylltwch â ni cyn 7 Ionawr. (freya.dooley@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org)

  • Bydd y banel yn cyfarfod yn fuan ar ôl y dyddiad cau. 

  • Byddwn yn rhoi gwybod i’r holl ymgeiswyr erbyn wythnos sy’n dechrau 19 Ionawr

Next
Next

£1 Appeal: Support Nathan’s debut album