Pedair Cân o Forgannwg

(2019)

for baritone and chamber orchestra

  1. Cân y Cathreinwr (Wenvoe)

  2. Ffarwel fo i Langyfelach lon (Llangyfelach)

  3. Cân o Ogwr (Ogmore)

  4. Ym Mhontypridd mae ‘mwriad (Pontypridd)

Commissioned by the Welsh Chamber Orchestra in association with Tŷ Cerdd

  • World Premiere: Jeremy Huw Williams (baritone); Welsh Chamber Orchestra; Anthony Hose (cond.) on 25 May 2020 at Canolfan Beaumaris, Gwyl Beaumaris Festival (Wales)

  • The traditional music of Wales, the beauty, heartache and occasional humour within our folksong, is something I have kept coming back to as a composer. There is so much within our musical heritage which resonates today and I enjoy opening up that conversation with the past, wrapping old tunes in a blanket of new.

    Originally written for the 50th Anniversary of the Vale of Glamorgan Festival of Music for baritone Jeremy Huw Williams and pianist Paula Fan, ‘Pedair Cân o Forgannwg’, sets four folksongs from my home county (formerly East Glamorgan). For these settings, I wanted to remain faithful to the original tunes. I have not carved them up or stripped them of their original intention, but I hope to have swaddled them in their own sense of time and character. From the driving energy and verve of ‘Cân y Cathreinwr‘ (Wenvoe) and ‘Cân o Ogwr’ (Ogmore), to the wistfulness and sensations of 'hiraeth' in ‘Ffarwel fo i Langyfelach lon’ (Llangyfelach) and ‘Ym Mhontypridd mae ‘mwriad’ (Pontypridd).

  • baritone, chamber orchestra (1.2.0.2. / 2.0.0.0. / str)

  • 10’

text

i. Cân y Cathreinwr 

Mi geso i 'ngwawdd i swpar
Gan ŵr bon(h)eddig (h)awddgar
A chal nidir wedi'i lladd
A phetar gwadd a wiwar! Ma–hw!

Mi geso i 'ngwawdd i gino
A chal pinclwns wedi'u stiwo,
Bara (h)aidd fel r(h)isgil co(e)d;
Ni cheso i 'rio(e)d well greso! Ma–hw!

Tri pheth sy dda gin grotyn
Yw gwraig y tŷ yn w(h)erthin
A'r crochon bach yn berwi'n ffrwd
A llond y cwd o bwdin. Ma–hw!

Tri pheth sy’n gas a lletwith
Yw (h)wch â iwc miwn gwenith,
Atgor gwan yn torri ton
A phac o gryddion llaw–w(h)ith! Ma–hw!

Tri pheth an-(h)awdd eu 'napod:
Dyn, derwan a diwarnod;
Y pren yn gou a'r dydd yn troi
A dyn yn ddouwynepog. Ma–hw!

ii. Ffarwel fo i Langyfelach Ion

Ffarwel fo i Langyfelach Ion,
A'r merched ieuainc i gyd o'r bron;
'Rwy'n mynd i dreio pa un sydd well,
Ai 'ngwlad fy hun neu'r gwledydd pell.

A martsio wnes i yn y blaen
Nes imi ddod i dre Pont–faen,
Ac yno 'eddent, yn fawr eu sbort,
Yn listio' gwŷr at y Duke of York.

Mi drois fy mhen ac i ryw dŷ,
Yr aur a'r arian oedd yno'n ffri,
Y dryms a'r ffeiffs yn cario'r sŵn –
A listio wnes at y Light Dragoon.

Ffarwel fy nhad a'm hannwyl fam,
Sydd wedi'm magu a'm dwyn i'r Ian
Yn dyner iawn ar aelwyd Ian,
A chan ffarwel fo i'r merched glan.

Os hola rhai pwy wnaeth y gân,
Atebwch hwy mai merch fach lan
Sydd yn gweddïo nos a dydd
Am i'w hannwyl gariad gael dod yn rhydd.

Fe aeth a'm calon gydag e',
Ond eiddo'i hun rodd yn ei lie,
A deddf atyniad cariad cun
A wnaeth ein c'lonnau bach yn un.

iii. Cân o Ogwr

Mae’r ceilog coch yn canu, 
Mae’n bryd I minnau gennu, 
Mae tyrfa faith yn mynd I’r Gwaith,
A’r fuwch a’r llo yn brefu, 
Hw mlân!

Mae’r ieir wrth ddrws y sgubor
Yn erfyn im ei agor, 
Mae Carlo’r ci’n fy ngalw i, 
Ni chysgaf ddim yn rhagor. 
Hw mlân!

Mi af i maes i weithio, 
Dos dithau, Mal, i odro,
Cawn frecwast iach ‘mhen tipyn bach, 
A bara can i ginio.  
Hw mlân!

iv. Ym Mhontypridd mae ‘mwriad

Ym Mhontypridd mae ‘mwriad, 
Ym Mhontypridd mae ‘nghariad. 
Yn Mhontypridd mae’r ferch fach lân, 
A’I chael o flaen y ‘ffeiriad.  

Mae’n bwthyn ger y afon, 
Mae gennyf warthog blithion, 
Mae gennyf fferm ar Ian y Tâf, 
O tyred ataf, Gwenfron. 

other version

Pedair Cân o Forgannwg for baritone and piano